Folk Tale
Y ffermwr a’i feibion.
Translated From
Γεωργὸς καὶ παῖδες αὐτοῦ
| Author | Αἴσωπος | 
|---|---|
| Language | Ancient Greek | 
Other Translations / Adaptations
| Text title | Language | Author | Publication Date | 
|---|---|---|---|
| The Farmer and His Sons | English | George Fyler Townsend | 1867 | 
| Author | Gan Glan Alun | 
|---|---|
| Book Title | Chwedlau Neu Ddammegion Aesop | 
| Publication Date | 1887 | 
| Language | Welsh | 
| Origin | Greece | 
Yr oedd Ffermwr ar ei wely angau, ac yn dymuno dangos i’w Feibion y ffordd i lwyddo mewn amaethyddiaeth fe’u galwodd atto, ac a ddywedodd, “Fy mhlant, yr wyf yn awr yn ymadael a’r bywyd hwn. Y cwbl sydd genyf i’w adael i chwi, chwi a’i cewch yn y winllan.” Y Meibion, yn meddwl ei fod yn cyfeirio at ryw drysor cuddiedig , a ddechreuasant yn ddioed, ar ol claddu yr hên ŵr, i lafurio gyda’u rhawiau a’u herydr, ac a droisant holl bridd y winllan drosodd drachefn a thrachefn. Mi ddaethant o hyd i’r trysor disgwyliedig, y mae yn wir; ond y gwinwydd, wedi eu cryfhau a’u gwellhau gan y driniaeth drwyadl hon, a ddygasant fwy o ffrwyth nag a roisant erioed o’r blaen, ac a dalasant yn dda iawn i’r Amaethwyr ieuaingc am eu trafferth. A hwy a ddeallasant fod
Diwidrwydd ei hun yn drysor gwerthfawr.
Text view • Book