Folk Tale
Yr ysgyfarnogod a’r llyffaint
Translated From
Λαγωοὶ καὶ βάτραχοι.
| Author | Αἴσωπος | 
|---|---|
| Language | Ancient Greek | 
Other Translations / Adaptations
| Text title | Language | Author | Publication Date | 
|---|---|---|---|
| The Hares and the Frogs | English | George Fyler Townsend | 1867 | 
| I leppira e i giurani | Sicilian | _ | _ | 
| Author | Gan Glan Alun | 
|---|---|
| Book Title | Chwedlau Neu Ddammegion Aesop | 
| Publication Date | 1887 | 
| ATU | 70 | 
| Language | Welsh | 
| Origin | Greece | 
Digwyddodd ar ddiwrnod ystormus, fod llu o Ysgyfarnogod wedi eu hamgylchynu gan elynion ar bob tu; yn eu braw, daethant i’r penderfyniad alaethus, nad oedd dim diangfa iddynt, ac na waeth iddynt wneuthur pen arnynt eu hunain, un ac oll. Ymaith a hwynt at lyn o ddŵr gerllaw, gan fwriadu rhoddi terfyn ar eu trueni mawr trwy hunanfoddiad. Haid o Lyffaint, yn chwareu ar lan y llyn, wedi eu dychrynu gan agoshâd yr Ysgyfarnogod, a neidiasant yn y braw a’r dyryswch mwyaf i’r dwfr, ac a ymguddiasant yn y gwaelod. “Aroswch, fy nghyfeillion,” ebe un o’r Ysgyfarnogod blaenaf, “nid yw ein hamgylchiadau ni cynddrwg eto; dyma greaduriaid truenus ereill, mwy diamddiffyn, ac mewn mwy o fraw a thristwch na ninnau.”
Gellid casglu gwroldeb, os nid cysur, oddiwrth brofedigaethau ereill. Canys pa faint bynag ein trueni, ni a gawn fod llawer a pha rai ni fynem er dim gyfnewid amgylchiadau.
Text view • Book