Folk Tale

Y llyffant a’r ych.

Translated From

Βάτραχος καὶ βοῦς

AuthorΑἴσωπος
LanguageAncient Greek

Other Translations / Adaptations

Text titleLanguageAuthorPublication Date
De kikker en de osDutchPaul Biegel_
Бык и ЖабаRussianВасилием Алексеевым_
La rana y el bueySpanish__
The Frog and the OxEnglish__
De kikker en de osDutch__
Žába a vůlCzech__
AuthorGan Glan Alun
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
Publication Date1887
LanguageWelsh
OriginGreece

Ych, yn pori mewn gweirglodd, a ddigwyddodd osod ei droed yn nghanol haid o Lyffaint ieuaingc, ac a sathrodd bron yr oll o honynt i farwolaeth. Un o honynt a ddiangodd, a fynegodd i’w fam y newydd alaethus; “ac O! mam,” meddai, “yr oedd y bwystfil yn fawr, — anifail mawr pedwar troediog; ni welais erioed greadur mor fawr.” “Mawr,” meddai yr Hen Lyffant, “pa mor fawr? A oedd ef mor fawr,” gan ymchwyddo allan gymmaint ag y gallai, “mor fawr a hyn?” “O!” meddai y fechan, “llawer iawn mwy na hynyna.” “ Wel, a oedd ef gymmaint a hyn, ynte?” ac ymchwyddai all­an eto fwy. “Yn wir, Mam, yr oedd o; a phe byddai i chwi ymhollti, ni chyrhaeddech i hanner ei faint.” Yn eiddigeddus oblegyd y fath ammheuaeth o’i galluoedd a’i mawredd, fe ymndrechodd yr Hen Lyffant drachefn, ac a ymdorodd, neu a ymrwygodd, mewn gwirionedd.

Mae llawer yn andwyo eu hunain, wrth ymdrechu am fawredd nad oes ganddynt ddim hawl na gallu iddo.


Text viewBook