Folk Tale

Y ffermwr a’i feibion.

Translated From

Γεωργὸς καὶ παῖδες αὐτοῦ

AuthorΑἴσωπος
LanguageAncient Greek

Other Translations / Adaptations

Text titleLanguageAuthorPublication Date
The Farmer and His SonsEnglishGeorge Fyler Townsend1867
AuthorGan Glan Alun
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
Publication Date1887
LanguageWelsh
OriginGreece

Yr oedd Ffermwr ar ei wely angau, ac yn dymuno dangos i’w Feibion y ffordd i lwyddo mewn amaethyddiaeth fe’u galwodd atto, ac a ddywedodd, “Fy mhlant, yr wyf yn awr yn ymadael a’r bywyd hwn. Y cwbl sydd genyf i’w adael i chwi, chwi a’i cewch yn y winllan.” Y Meibion, yn meddwl ei fod yn cyfeirio at ryw drysor cuddiedig , a ddechreuasant yn ddioed, ar ol claddu yr hên ŵr, i lafurio gyda’u rhawiau a’u herydr, ac a droisant holl bridd y win­llan drosodd drachefn a thrachefn. Mi ddaethant o hyd i’r trysor disgwyliedig, y mae yn wir; ond y gwinwydd, wedi eu cryfhau a’u gwellhau gan y driniaeth drwyadl hon, a ddygasant fwy o ffrwyth nag a roisant erioed o’r blaen, ac a dalasant yn dda iawn i’r Amaethwyr ieuaingc am eu trafferth. A hwy a ddeallasant fod

Diwidrwydd ei hun yn drysor gwerthfawr.


Text viewBook