Text view
Y saethwr a'r llew
Author | Αἴσωπος |
---|---|
Book Title | Chwedlau Neu Ddammegion Aesop |
Language | Welsh |
Origin | Greece |
Aeth gŵr, yr hwn oedd yn dra medrus gyda'i fŵn a'i saeth i fynu i'r mynyddoedd i hela. Pan ganfyddwyd ef yn agoshau, ffôdd yr holl fwystfilod ymaith mewn braw ae arswyd. Y Llew yn unig a ddangosodd duedd i'w wrthsefyll. "Arhoswch;" ebe y Saethwr wrtho, "a derbyniwch genadwr oddiwrthyf, y mae ganddo rywbeth i'w ddywedyd wrthych." Gyda hyny, fe ollyngodd ei saeth at y Llew, ac a'i harchollodd yn ei ystlys. Y Llew yna, yn arteithiedig gan boen, a ddiangodd i ganol y goedwig. Rhyw Lwynog, wrth ei weled yn ffoi, a archodd arno ymwroli, a gwynebu y gelyn. "Na," atebai y Llew, "nid ellwch fy mherswadio I i hyny; oblegid os yw y genad a anfona mor llym, pa beth a raid fod gallu yr hwn a'i hanfonodd?"
Nid yw gwroldeb heb bwyll ond rhyfyg.—Nid yw nerth corph ddim wrth nerth meddwl.
Download XML • Download text • Story • Book