Text view
Y llwynog a'r afr
| Title | Y llwynog a'r afr |
|---|---|
| Original Title | Ἀλώπηξ καὶ τράγος |
| Original Author | Αἴσωπος |
| Original ID | trans-4754.xml |
| Book Author | Gan Glan Alun |
| Chapter Nr. | 004 |
| Language code | cym |
Yr oedd Llwynog wedi syrthio i mewn i ffynnon ddofn, ac er ymdrechu yn mhob modd, yn methu dringo allan o honi. Dygwyddodd i Afr ddyfod i'r fan, a chan ei bod yn sychedig, gofynodd i'r Llwynog, A oedd y dwfr yn dda, ac a oedd yno ddigon o hono? Y Llwynog, heb gymmeryd arno ei fod mewn helbul, a atebodd, "Dowch i lawr, gyfaill, mae y dwfr mor ddâ fel na allaf roi heibio ei yfed, ac y mae cyflawnder dihysbydd o hono." Ar hyn neidiodd yr Afr i mewn heb ychwaneg o ystyriaeth; a'r Llwynog gan gymmeryd mantais o gyrn "ei gyfaill," a neidiodd allan yn y fan; a dywedai yn bur bwyIlog wrth yr Afr druan, "Pe buasai genych hanner gymmaint o ymenydd ag sydd genych o farf, buasech wedi edrych o'ch blaen cyn neidio."
Y mae cynhgor y dichellgar yn beryglus
Download XML • Download text • Story • Book