Text view
Y morgrugyn a'r ceiliog rhedyn
Title | Y morgrugyn a'r ceiliog rhedyn |
---|---|
Original Title | Τέττιξ καὶ μύρμηκες |
Original Author | Αἴσωπος |
Original ID | trans-4724.xml |
Book Author | Gan Glan Alun |
Chapter Nr. | 007 |
Language code | cym |
Ar ddiwrnod rhewliyd yn y gauaf yr oedd Morgrugyn yn llusgo allan ychydig ŷd a drysorasai yn yr hâf, i'w sychu yn yr awyr agored. Ceiliog Rhedyn, a ddigwyddasai oroesi yr hâf, ac oedd yn awr bron marw o newyn, a daer erfyniai ar y Morgrugyn i roddi iddo un gronyn i'w gadw yn fyw. "Atolwg," meddai y Morgrugyn wrtho, "pa beth a fuoch chwi yn ei wneyd trwy yr hâf diweddaf?" "O !" atebai y Ceiliog Rhedyn, "nid oeddwn yn segura, bum yn canu ar hyd yr hâf." "Aië," ebe y Morgrugyn, gan chwerthin a chau ei ystordy, "os gallasoch ganu ar hyd yr hˆf, gallwch ddawnsio ar hyd y gauaf".
Y gauaf a ddwg allan yr hyn y mae yr hâf wedi ei hebgor. Mewn ieuengctyd ac iechyd y mae darparu ar gyfer henaint ac afiechyd.
Download XML • Download text • Story • Book