Text view
Y blaidd a’r oen
Author | Gan Glan Alun |
---|---|
Book Title | Chwedlau Neu Ddammegion Aesop |
Publication Date | 1887 |
Language | Welsh |
Origin | Greece |
Fel yr oedd Blaidd yn tori ei syched wrth fin ffrwd redegog, fe ganfyddodd Oen unigol ychydig islaw iddo yn yfed o’r un dwfr. Gwnaeth i fynu ei feddwl i ymosod arno, a cheisiai ddyfeisio rhyw esgus i gyflawnhau ei drais. “Filain,” ebe ef, gan redeg at yr Oenig, “pa sut yr ydych chwi yn meiddio llwydo y dwfr yr wyf fi yn ei yfed?” “Yn wir,” atebai yr Oce yn dra dychrynedig a gwylaidd, “nid wyf fi yn gweled pa fodd y gallaf fi lwydo y dwfr, canys y mae yn rhedeg oddiwrthych chwi ataf fi, ac nid oddiwrthyf fi atoch chwi.” “Pa’r un bynag am hyny,” meddai y Blaidd, “nid oes ond biwyddyn er pan y clywais chwi yn fi ngalw I yn bob math o enwau drwg.” “O! syr,” ebe yr Oen gan grynu, “nid oeddwn ni ddim wedi fy ngeni flwyddyn yn o? “Wel,” meddai y Blaidd, “ os nid y chwi oedd, eich tad oedd e, ac y mae hyny yr un peth; ond nid yw o ddefnydd yn y byd treio fy ymresymu I allan o fy swper.” Ac heb ychwaneg o eiriau, fe syrthiodd ar yr Oenig druan, ac a’i llarpiodd yn y fan.
Lle y byddo nerth, creulondeb, a malais, yn cyd-gyfarfod ni byddis byth yn fyr o esgus i ormesu. — Ychydig obaith i wrthsefyll gormes ac anghyfiawnder sydd i’r rhai na feddant ddim arfau ond cyfiawnder a diniweidrwydd.
Download XML • Download text • Story • Book