Text view
Yr arth a’r llwynog.
Author | Gan Glan Alun |
---|---|
Book Title | Chwedlau Neu Ddammegion Aesop |
Publication Date | 1887 |
Language | Welsh |
Origin | Greece |
Yr oedd Arth yn arfer ymffrostio o gariad mawr at Ddyn, gan ddyweyd na ddarfu iddo fe erioed larpio neu ddarnio Dyn wedi iddo farw. Sylwai y Llwynog, gyda gwên, “Buaswn yn meddwl mwy o’ch proffes o gariad, pe na rwygech ef byth pan yn fyw.”
Gwell cadw dyn rhag marw, na’i enneinio ef wedi iddo farw.
Download XML • Download text • Story • Book