Text view
Y dyn a’r neidr
Author | Gan Glan Alun |
---|---|
Book Title | Chwedlau Neu Ddammegion Aesop |
Publication Date | 1887 |
Language | Welsh |
Origin | Greece |
Gwr gwladaidd yn dychwelyd adref ryw ddiwrnod rhewllyd yn y gauaf, a ganfyddodd Neidr yn y clawdd bron marw gan yr oerfel. Gan gymmeryd trugaredd ar y creadur, fe a’i cododd i’w fynwes, ac a’i dygodd i’w dy^, ac a’i gosododd ar yr aelwyd i’w ddadebru. Nid cynt yr oedd y Neidr wedi ei llwyr adferu gan wres y tân, na ddechreuodd ymosod ar y plant a theulu y ty^. Ar hyn cymmerodd y gwladwr fatog ac a’i lladdodd yn y fan, gan ddyweyd, “Ai hyn, filain ysgeler yw y wobr a deli i ini am achub dy fywyd?”
Dylid bod yn ddoeth wrth wneyd cymmwynasau. Y [rhai] a dalant ddrwg am dda, a flinant amynedd pawb syrthiant i’r fagl yn y diwedd.
Download XML • Download text • Story • Book