Text view
Y llyffant a’r ych.
| Author | Gan Glan Alun |
|---|---|
| Book Title | Chwedlau Neu Ddammegion Aesop |
| Publication Date | 1887 |
| Language | Welsh |
| Origin | Greece |
Ych, yn pori mewn gweirglodd, a ddigwyddodd osod ei droed yn nghanol haid o Lyffaint ieuaingc, ac a sathrodd bron yr oll o honynt i farwolaeth. Un o honynt a ddiangodd, a fynegodd i’w fam y newydd alaethus; “ac O! mam,” meddai, “yr oedd y bwystfil yn fawr, — anifail mawr pedwar troediog; ni welais erioed greadur mor fawr.” “Mawr,” meddai yr Hen Lyffant, “pa mor fawr? A oedd ef mor fawr,” gan ymchwyddo allan gymmaint ag y gallai, “mor fawr a hyn?” “O!” meddai y fechan, “llawer iawn mwy na hynyna.” “ Wel, a oedd ef gymmaint a hyn, ynte?” ac ymchwyddai allan eto fwy. “Yn wir, Mam, yr oedd o; a phe byddai i chwi ymhollti, ni chyrhaeddech i hanner ei faint.” Yn eiddigeddus oblegyd y fath ammheuaeth o’i galluoedd a’i mawredd, fe ymndrechodd yr Hen Lyffant drachefn, ac a ymdorodd, neu a ymrwygodd, mewn gwirionedd.
Mae llawer yn andwyo eu hunain, wrth ymdrechu am fawredd nad oes ganddynt ddim hawl na gallu iddo.
Download XML • Download text • Story • Book