Text view
Y bachgen a’r blaidd
Author | Gan Glan Alun |
---|---|
Book Title | Chwedlau Neu Ddammegion Aesop |
Publication Date | 1887 |
ATU | 1333 |
Language | Welsh |
Origin | Greece |
Bachgen o fugail, yn gwilio ei braidd yn agos i bentref, a ddifyrodd ei hun amryw weithiau, trwy redeg yno, a gwaeddi, “Y Blaidd! Y Blaidd!” Deuai yr holl bentref allan ar redeg i’w gynnorthwyo; ac ar ol eu myned yno, chwarddai y Bachgen ar en penau. O’r diwedd, ryw ddiwrnod, daeth y Blaidd mewn gwirionedd. Gwaeddodd y Bachgen allan 6 ddifrif; ond ei gymmydogion, gan feddwl mai wrth ei hên ddifyrwch yr oedd, ni choelient ef, a’r Blaidd a reibiodd y defaid. Ni choelir y celwyddog, hyd yn nod pan y dywedant y gwirionedd.
Download XML • Download text • Story • Book