Text view
Y lleidr a’i fam
Title | Y lleidr a’i fam |
---|---|
Original Title | Παῖς κλέπτης καὶ μήτηρ |
Original Author | Αἴσωπος |
Original ID | trans-4679.xml |
Book Author | Gan Glan Alun |
Chapter Nr. | 100 |
Language code | cym |
Dygodd Bachgen Bach lyfr corn oddiar un o’i gyd-ysgoleigion, a dygodd ef adref i’w Fam. Yn lle ei geryddu, hi, yn hytrach, a’i canmolodd oblegid y weithred. Yn mhen blynyddau y Bachgen, wedi tyfu yn Ddyn, a ddeuhreuodd ddwyn pethau o fwy gwerth; ac o’r diwedd, wedi ei ddal yn y weithred, a gymmerwyd yn rhwym, ac a’i bwriwyd i’w ddienyddio. Canfyddodd ei Fam yn dilyn yn y dyrfa, yn wylo, ac yn curo ei dwyfron; gofynodd i’r swyddogion am ganiatâd i siarad un gair yn ei chlust. Pan y daeth yn agos atto, a rhoddi ei chlust at enau ei Mab, efe a gydiodd ynddi yn dyn a’i ddannedd, ac a’i brathodd ymaith. Ar hyn, y Fam a waeddodd allan; a’r dyrfa a unasant a hi i gondemnio y Mab annaturiol, fel na buasai ei weithredoedd drwg blaenorol yn ddigon, ond rhaid i’w weithred olaf fod yn weithred o greulondeb anfad tuag at ei Fam ei hun. Ond efe a ddywedodd, “Hi yw yr achos o’m dinystr: canys os, pan ddygais I y llyfr corn oddiar fy nghyd-ysgolhaig, ac y dygais iddi hi, y curasai hi fi yn dda, ni buaswn byth wedi cynnyddu mewn drygioni, nes dyfod i’r diwedd anamserol hwn.”
Rhaid lladd drwg yn yr eginyn. Arbed y wialen yw andwyo y plentyn.
Download XML • Download text • Story • Book