Text view
Yr ysgyfarnog a’r bytheuad
Author | Αἴσωπος |
---|---|
Book Title | Chwedlau Neu Ddammegion Aesop |
Language | Welsh |
Origin | Greece |
Bytheuad, wedi codi Ysgyfamog o dwmpath, a redodd ar ei hoi am yspaid; ond yr oedd yr Ysgyfamog yn ei guro, ac fe ddiangodd. Bugail yn pasio heibio, a wawdiodd y Cî, gan ddywedyd fod y pryf yn gyflymach nag ef. “Yr ydych yn anghofio,” ebe y Cî, “mai un peth ydyw rhedeg am eich ciniaw, ond peth arall ydyw rhedeg am eich bywyd.”
Eto, y mae llaver yn ymdrechu mwy am y bwyd a dderfydd, nag am fywyd tragywyddol.
Download XML • Download text • Story • Book