Text view
Y llyffant a’r teirw
| Author | Gan Glan Alun | 
|---|---|
| Book Title | Chwedlau Neu Ddammegion Aesop | 
| Publication Date | 1887 | 
| Language | Welsh | 
| Origin | Italy | 
Llyffant, ryw ddiwrnod, a gododd ei ben o’r Ilyn, a chan edrych o’i amgylch, fe welai ddau Darw yn ymladd yn y weirglodd gerllaw. Galwodd ar un o’i frodyr, a dywedodd, “Gwelwch y fath waith ofnadwy sydd yn myned yn mlaen acw! Och! fi, pa beth a ddaw o honom?” “Pw,” ebe y llall, “paham yr ydych yn dychrynu am ddim? Pa fodd y gall eu hymrafaelion hwy ein niweidio ni? Y maent yn greaduriaid o ryw hollol wahanol i ni, ac nid ydynt yn awr ond yn ymdrechu pa un gaiff fod yn ben ar y fuches.” “Gwir iawn,” atebai y cyntaf, “ond, er eu bod o rywogaeth gwahanol i ni, eto, gan fod un o honynt yn sicr o gael ei orchfygu, bydd hwnw, wedi ei yru allan o’r weirglodd, yn debyg iawn o ffoi i’r siglenydd hyn, ac fe fydd yn bur debyg o sathru rhai o honom i farwolaeth, felly, y mae mwy a wnelom ni a’u hymdrech hwynt nag y gellwch feddwl ar y cyntaf.”
Pan y byddo galluoedd mawrlon yn mymd i ryfel, y mae y werin, ddiniwed yn gyffredin yn gorfod dyoddef.
Download XML • Download text • Story • Book