Text view
Yr hen wr ac angau
| Title | Yr hen wr ac angau |
|---|---|
| Original Title | Γέρων καὶ θάνατος |
| Original Author | Αἴσωπος |
| Original ID | trans-4794.xml |
| Book Author | Gan Glan Alun |
| Chapter Nr. | 134 |
| Language code | cym |
Hên Wr wedi teithio ffordd bell gyda bwrned mawr o goed, a gafodd ei hunan mor lluddedig, fel y gorweddodd i lawr, ac y galwodd am Angau i'w waredu allan o'i fywyd truenus. Daeth Angau, yn ddioed, ar ei alwad, a gofynodd iddo pa beth oedd arno eisieu. "Attolwg, anwyl syr," ebe yntau, "a welwch chwi fod yn ddâ fy helpu i roddi y bwrned ar fy nghefn eto."
Un peth ydyw galw am angau, a pheth arall ydyw ei weled.
Download XML • Download text • Story • Book