Text view
Yr adarwr a'r betrusen
Title | Yr adarwr a'r betrusen |
---|---|
Book Author | Αἴσωπος |
Chapter Nr. | 135 |
Language code | cym |
Pan yr oedd Adarwr wedi cymmeryd Petrusen yn ei rwyd, yr aderyn a waeddodd allan yn wylofus, "Gâd i mi fyned, Adarwr mwyn, a mi a addawaf hudo Petris ereill i'ch rhwyd." "Na," meddai y Dyn, "pa beth bynag a allaswn ei wneyd o'r blaen, yr wyf yn benderfynol na arbedaf chwi yn awr; canys nid oes un farwolaeth yn rhy greulon i'r hwn sydd yn barod i fradychu ei gyfeillion".
Y casaf o ddynion yw yr hwn a abertha ei gyfeillion i'w waredu ei hun.
Download XML • Download text • Story • Book