trans-8706

Yr eryr a’r llwynog

AuthorGan Glan Alun
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
Publication Date1887
LanguageWelsh
OriginGreece

Yr oedd Eryr a Llwynog wedi byw am dymhor maith yn gymmydogion agos a heddychlawn; yr Eryr ar ben uchaf pren mawr, a’r Llwynog mewn twll wrth ei wraidd ef. Er hyny, un diwrnod, pan oedd y Llwynog oddicartref, gwnaeth yr Eryr ymosodiad ar genaw y Llwynog, ac ai cipiodd i fyny i’w nyth, —gan feddwl fod ei thrigfan mor uchel, fel nad allai y Llwynog byth ei niweidio. Y Llwynog, ar ei ddychweliad adref, a gwynodd yn fawr oblegyd angharedigrwydd yr Eryr; ac a daer erfyniodd am ddychweliad y bychan; ond wrth weled nad oedd ei erfyniadau yn tycio, fe gipiodd bentewyn oddiar allor a gynneuasid gerllaw, ac yn fuan yr oedd y pren oll mewn mwg a thân. Dychwelodd yr Eryr yn ddioed, er mwyn ei bywyd ei hun a’i phlant, y cenaw, a wrthodasai ei ildio i erfyniadau a daerau y Llwynog. Y mae bygythion, yn gyffredin, yn fwy effeithiol gyda gormeswyr neu erfyniadau a dagrau.


Download XMLDownload textStoryBook