trans-8709

Y llwynog a’r llew

AuthorGan Glan Alun
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
Publication Date1887
ATU050B
LanguageWelsh
OriginGreece

Y tro cyntaf y gwelodd Llwynog Lew, fe syrthiodd wrth ei draed, ac yr oedd yn mron marw gan arswyd. Yr ail dro, er ei fod eto yn lled ofnus, eto fe a ymwrolodd gymmaint fel y mentrodd edrych arno. Y trydydd tro, fe aeth mor hyf, fel yr aeth ac a’i cyfarchodd ef, gan ofyn iddo, “Pa sut yr oedd ef?” Y mae cynnefino â pheryglon yn gwneyd dynion yn rhyfygus. Gorchest ydyw ymddwyn tuag at ein huchafiaid, heb fod yn wasaidd ar y naill law, nac yn or-hyf ar y llaw arall.


Download XMLDownload textStoryBook