Folk Tale

Y llwynog a gollodd ei gynffon

Translated From

Ἀλώπηξ κολουρός

AuthorΑἴσωπος
LanguageAncient Greek

Other Translations / Adaptations

Text titleLanguageAuthorPublication Date
The Fox Who Had Lost His TailEnglishGeorge Fyler Townsend1867
A vurpi ca cura muzzaSicilian__
De vos zonder staartDutch__
Պոչատ աղվեսըArmenian__
Yn Shynnagh fegooish e AmmanManxEdward Faragher1901
AuthorGan Glan Alun
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
Publication Date1887
ATU64
LanguageWelsh
OriginGreece

Llwynog, wedi ei ddal mewn trap, a achubodd ei fywyd, trwy adael ei Gynffon ar ei ol; ond wedi dyfod i blith ei gyfeillion, teimlai y fath gywilydd oblegid hynodrwydd yr anaf oedd arno, nes o’r bron y buasai yn well ganddo fod wedi marw, na dyfod yn rhydd heb ei Gynffon. Ond beth bynag, i wneyd y goreu o’r gwaethaf, efe a alwodd y’nghyd gyfarfod o Lwynogod, ac a gynnygiodd, fod iddynt oll ddilyn ei esiampl ef, “Nis gellwch ddirnad,” ebe efe, “gyda’r fath gysur, a rhyddid, yr wyf yn awr yn gallu symud oddiamgylch; nis gallaswn gredu y fath beth, oni bai i mi wneuthur y prawf arnaf fy hun: ond yn wir, erbyn i ni ystyried, y mae Cynffon yn beth mor hyll, anhwylus, a dianghenrhaid, fel mai yr unig syndod yw, ein bod ni, Lwynogod, wedi ei dyoddef cyhyd. Yr wyf fi yn cynnyg, gan hyny, fy anwyl frodyr, fod i chwi oll gymmeryd addysg oddiwrth fy mhrofiad I, a bod i bob Llwynog dori ymaith ei Gynffon, o’r dydd hwn allan.” Ar hyn, daeth un o’r Llwynogod hynaf yn mlaen, a dywedodd, “Yr wyf fi braidd yn meddwl, gyfaill, na buasech chwi ddim yn ein hannog ni i ymadael â’n Cynffonau, pe buasai rhyw obaith i chwi ennill eich Cynffon eich hun yn ol.”

Os nad all dynion o natur basaidd gyrhaedd at ragoroldeb rhai ereill, hwy a ymdrehant dynu pawb ereill i lawr i’w distadledd en hunain.


Text viewBook